Digwyddiadau
Sesiynau Blasu Ar-Lein
Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2020 09:00Sesiynau Blasu Ar-Lein Ar Gyfer Addysg Athrawon
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Sesiynau Blasu Ar-Lein Ar Gyfer Addysg Athrawon
4 Tachwedd, 2020
25 Tachwedd, 2020
9 Rhagfyr, 2020
Gwnewch wahaniaeth...Addysgwch!
Mae’r Sesiynau Blasu Ar-lein wedi’u llunio ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am yrfa’n addysgu – cewch glywed gan ein Haddysgwyr Athrawon, cwrdd â’n partneriaid ysgol a chael ateb i’ch holl gwestiynau am y rhaglenni a restrir isod.
Addysg Gynradd gyda SAC (BA)
TAR Cynradd gyda SAC
TAR Uwchradd gyda SAC
Cofrestrwch yma: https://uwtsd.ac.uk/cy/ymweld/sesiynau-blasu-ar-lein-ar-gyfer-addysg-athrawon/
Sesiynau Blasu Ar-lein (Microsoft Teams)
Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw TAR
Dydd Llun, 9 Tachwedd 2020 09:49Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw TAR Met Caerdydd
Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio TAR? Ymunwch â’n digwyddiadau Holi ac Ateb Byw i ddarganfod mwy am astudio ein rhaglenni TAR Cynradd, TAR Uwchradd neu TAR AHO a sgwrsio â darlithwyr Met Caerdydd.
Cofrestrwch nawr i ofyn eich cwestiynau https://www.cardiffmet.ac.uk/study/opendays/virtualopenday/Pages/live.aspx
TAR Cynradd - 09 Tachwedd 2020, 2pm
TAR Uwchradd - 10 Tachwedd 2020, 2pm
TAR AHO - 12 Tachwedd 2020, 6pm
Dechreuwch eich Gyrfa Addysgu
Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020 18:00Dechreuwch eich Gyrfa Addysgu gyda Phrifysgol Abertawe!
Mae’r cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Uwchradd yn cychwyn ym mis Medi 2021!
Ymunwch â ni yn ystod ein Noson Agored Rithwir 26 Tachwedd 6.00-7.30pm
Cewch gyfle i gwrdd â’r tîm TAR yn ystod ein sesiynau holi ac ateb byw ar Zoom, ymuno â'n sgwrs fyw a dysgu mwy am astudio gyda ni!
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: pgce-enquiries@abertawe.ac.uk
OU CYMRU DIWRNOD AGORED AR-LEIN TAR
Dydd Llun, 7 Rhagfyr 2020 19:00Cofrestrwch nawr ar gyfer ein diwrnod agored TAR ar-lein.
Dewch i ddysgu mwy ynghylch llwybrau newydd i ddod yn athro gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ymunwch â ni ar 7 Rhagfyr am 19:00 wrth inni drafod sut mae'r TAR newydd gyda'r Brifysgol Agored yn gweithio a sut gallwch wneud cais ar gyfer mis Hydref 2021. Gallwch hefyd ofyn cwestiwn i'n tîm yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb ar-lein fyw.
Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw TAR Met Caerdydd
Dydd Iau, 28 Ionawr 2021 18:00Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw TAR Met Caerdydd
Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio TAR? Ymunwch â’n digwyddiadau Holi ac Ateb Byw i ddarganfod mwy am astudio ein rhaglenni TAR Cynradd, TAR Uwchradd neu TAR AHO a sgwrsio â darlithwyr Met Caerdydd.
Cofrestrwch nawr i ofyn eich cwestiynau https://www.cardiffmet.ac.uk/study/opendays/virtualopenday/Pages/live.aspx
TAR Cynradd - 21 Ionawr 2021, 2pm
TAR Uwchradd - 26 Ionawr 2021, 2pm
TAR AHO - 28 Ionawr 2021, 6pm
A oes gennych chi awydd newid eich gyrfa? A ydych chi’n ystyried hyfforddi fel athro?
Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2021 18:00Ymunwch â ni ar 23 Chwef wrth i ni egluro mai’r cwrs TAR hyblyg, newydd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r llwybr perffaith at yrfa newydd yn y byd addysg.
Yn y digwyddiad byw ar-lein, bydd ein tîm yn egluro mwy ynghylch ein llwybrau TAR â chyflog a rhan amser unigryw. Cewch glywed gan rai o’n hathrawon dan hyfforddiant presennol yn trafod eu profiadau a chewch roi cwestiwn gerbron y panel.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg.